OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 100 (Cy. 48)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009 (O.S. 2009/1385 (Cy. 141)) drwy ddileu’r gofyniad i gyfarwyddwr anweithredol yr awdurdod lleol a chyfarwyddwr anweithredol y brifysgol gael eu henwebu. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu’r gofyniad i gyfarwyddwr anweithredol y sector gwirfoddol fod yn ddeiliad swydd yng Nghymru. Ni fydd rhaid bellach i gyfarwyddwr anweithredol y brifysgol gael ei enwebu gan brifysgol yng Nghymru, na meddu ar arbenigedd addysgu neu ymchwilio ym maes iechyd cyhoeddus; yn hytrach, yr unig ofyniad fydd i’r person fod yn ddeiliad swydd sy’n ymwneud ag iechyd mewn prifysgol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif 100 (Cy. 48)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2016
Gwnaed 28 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Chwefror 2016
Yn dod i rym 15 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 18(4), 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]) a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi.
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymddiriedolaeth
Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a
Gweithdrefn) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2016.
Diwygio Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009
2.—(1)(1) Mae Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009([2]) wedi eu diwygio fel a
ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (cyfarwyddwyr anweithredol), yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Bydd cyfarwyddwyr anweithredol yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys—
(a) person sy’n ddeiliad swydd sy’n ymwneud ag iechyd mewn prifysgol;
(b) person a chanddo brofiad o awdurdodau lleol yng Nghymru;
(c) person sy’n un o gyflogeion neu’n un o aelodau corff sector gwirfoddol a chanddo brofiad o’r fath gyrff yng Nghymru.”
(3) Hepgorer paragraff (2).
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Ionawr 2016